Theatr / Uno, cydio, tanio
Pedair blynedd ers rhyddhau ‘Dihoeni’ mae Sŵnami yn ôl gyda sengl ddwbl.
Bydd ‘Theatr’ yn cael ei chwarae am y tro cyntaf yn ystod rhaglen Lisa Gwilym ar BBC Radio Cymru ar nos Fercher 10 Mawrth, gydag ‘Uno, cydio, tanio’ yn cael ei chwarae ar raglen Huw Stephens ar y noson ganlynol.
Dyma’r unig gyfle i glywed y caneuon cyn eu bod nhw wedi’u rhyddhau yn swyddogol, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwrando rhwng 18:30 a 21:00.
Four years after releasing ‘Dihoeni’ Sŵnami are back with a brand new double single.
Theatr (Theatre) will be played for the first time during Lisa Gwilym’s show on BBC Radio Cymru on Wednesday 10 March, with ‘Uno, cydio, tanio’ (Unite, embrace, ignite) premiering on Huw Stephens’ show the following night.
This is your only chance to hear the tracks before the official release, so make sure you tune in between 18:30 and 21:00.